18-19 Ebrill 2024

Canolfan y Celfyddydau, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DE.

  • A yw bwydydd wedi eplesu yn llesol i’n seicoleg yn ogystal ag i iechyd ein perfedd?

  • Beth ddywed gwyddoniaeth wrthym am y traddodiad hynafol yma o brosesu bwyd a diod?

  • Beth ddywed gwyddoniaeth wrthym am y traddodiad hynafol yma o brosesu bwyd a diod?

Ymunwch â ni mewn trafodaeth ddifyr ar beth o’r ymchwil diweddaraf i fanteision iechyd bwyd a diod wedi eplesu. Cewch glywed gan wyddonwyr, busnesau a chynhyrchwyr artisan yn ogystal â chael blasu amrywiaeth o fwyd a diod wedi eplesu.

Mae mynediad am ddim yn cynnwys lluniaeth ond cofrestrwch ar ein tudalen Eventbrite erbyn 12 Ebrill os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau lle.

Bydd ein Gŵyl Eplesu yn cychwyn ar nos Iau 18 Ebrill gyda derbyniad anffurfiol a dangosiad rhad ac am ddim o’r ffilm ddogfen ‘Fermented’ yn sinema Canolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd ein raglen lawn o weithgareddau yn digwydd rhwng 09:30 a 15:30 ddydd Gwener 19 Ebrill, gydag ystod o sgyrsiau, trafodaethau panel ac astudiaethau achos yn ogystal â dangosiad gwneud kefir a sauerkraut a chyfle i flasu’r cynnyrch.

Bydd gennym ardal arddangos hefyd lle bydd modd gweld amrywiaeth o fwyd a diod wedi eplesu o Gymru yn ogystal â stondinau gan fudiadau sy’n cynnig gwasanaethau cymorth i’r diwydiant a phrosiectau ymchwil academaidd yn ymwneud â  phrosesau eplesu.

Saesneg fydd cyfrwng mwyafrif y sesiynau ffurfiol, gyda chyfieithu ar y pryd ar gyfer cyflwyniadau Cymraeg.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu atom ni!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch eplesu@aber.ac.uk.

Rhaglen

 

Nigel Holt

Siaradwyr