Siaradwyr (A-Y)

Laure Boutrais from a company called Absorb holding a jar of fermented produce

Laure Boutrais

Laure Boutrais yw sylfaenydd cwmni Absorb sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac sy’n cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch kefir dŵr yn ogystal â sauer kraut a halen. Cymhwysodd fel Ymgynghorydd Maeth Naturopathig yn 2017 ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn buddiannau iechyd bwydydd a diodydd wedi’u eplesu, yn enwedig kefir dŵr. Yn ogystal â gwneud cynhyrchion gan ddefnyddio cynhwysion naturiol, mae Laure yn darparu gweithdai a hyfforddiant unigol ar faeth ac iechyd naturopathig yng Nghaerdydd.
A profile picture of Dr David Bryant from Aberystwyth University

Dr David Bryant

Mae Dr David Bryant yn uwch gymrawd ymchwil yn y Grŵp Buro Biomas a Biodrosi yn IBERS PA. Gydag arbenigedd mewn biotechnoleg diwydiannol planhigion a microbaidd, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar eplesu manwl gywir, cynyddu ac i lawr yr afon. Mae wedi goruchwylio a chyd-oruchwylio 8 myfyriwr PhD ac wedi arwain consortia ymchwil rhyngwladol â ffocws diwydiannol yn Ewrop (Climate-KIC BIOSUCCONNOVATE) ac India (BBSRC BIOREVIEW). Mae allbwn y prosiectau hyn wedi arwain at fasnacheiddio ei ymchwil ar weithgynhyrchu eplesu xylitol a ffurfio cwmni deillio ARCITEK-Bio Ltd, lle mae’n gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae’n arwain prosiect FoodBioSystems y BBSRC sy’n defnyddio eplesu cyflwr solet “Bioburo Protein o Laswelltiroedd y DU – A Allwn ni Gyfuno Protein Newydd â Chrystiau Bara Dros Ben i Fwydo Bwyd Iachach yn Gynaliadwy i Fwy o Bobl?” mewn cydweithrediad â Samworth Brothers Ltd. Yn fwy diweddar, mae ei ddiddordebau ymchwil wedi canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrwng yn seiliedig ar blanhigion ar gyfer y diwydiant cig wedi’i feithrin, ac mae’n Gyd-Ymchwilydd ar brosiect BioFoodSystems y BBSRC, “Ail-feddwl Cyfrwng Tyfu Cig wedi’i Feithrin: A all Atodiadau sy’n Deillio o Blanhigion Glaswellt Gefnogi Cynhyrchu CM yn Gynaliadwy?”, ar y cyd â Cellular Agriculture Ltd. Ar ben hynny, ef yw arweinydd IBERS yng nghanolfan BBSRC Engineering Biology Microbial Foods a arweinir gan Imperial College London, gan ddarparu arbenigedd mewn cynyddu graddfa eplesu bwydydd a hefyd yn cyd-arwain prosiect BEACON Canolbarth Cymru UKSPF gan weithio gyda chwmnïau o Bowys sy’n weithgar yn y bioeconomi gylchol.

Yr Athro Hazel Davey

Mae Hazel Davey yn Athro mewn Bioleg yn Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hi yw cydlynydd y radd MRes Biosciences (C190) ac mae’n aelod etholedig o Senedd y Brifysgol. Mae ganddi radd BSc mewn Sŵoleg a Microbioleg o Brifysgol Aberystwyth a gwnaeth ddoethuriaeth yma ar  PhD ar Lif Cytometreg Micro-organebau. Mae’r Athro Davey yn dysgu bioleg a biocemeg i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, tra fod ei hymchwil yn canolbwyntio ar furum bragu Saccharomyces cerevisiae a sut mae’n ymateb i straen. Mae hi’n gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
A head and shoulders photo of Dr Rhian Hayward, CEO of AberInnovation

Dr Rhian Hayward

Ymunodd Dr Hayward ag ArloesiAber fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ionawr 2017 ac mae wedi arwain y gwaith o adeiladu’r Campws Arloesedd gwerth £40.5m ynghyd â’r mentrau sy’n cefnogi busnesau biowyddoniaeth cyfnod cynnar i dyfu. Yn ystod y cyfnod hwn mae Rhian wedi bod yn Is-Gadeirydd Cymdeithas Parc Gwyddoniaeth y DU, yn aelod o Fwrdd Datblygu Diwydiannol Cymru a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod ac wedi dod yn Gymrawd Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Ar hyn o bryd, mae Rhian yn aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae ymrwymiad Dr Hayward i wyddoniaeth ac arloesedd yn parhau o gyfres o rolau ym masnacheiddio technolegau gwyddor bywyd yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae ganddi DPhil mewn epidemioleg clefydau heintus o Brifysgol Rhydychen a BSc dosbarth cyntaf o Goleg y Brenin Llundain. Derbyniodd Dr Hayard MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016.
A head and shoulders photo of Richard Wyn Huws

Yr Athro Nigel Holt

Mae Nigel Holt yn Athro Seicoleg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo ddiddordeb mewn nifer o feysydd ond o ran eplesu deillia ei ddiddordeb o’i waith ‘Un Iechyd’ – agwedd at iechyd sydd wedi dod yn ganolbwynt i ystod o waith yn fyd-eang. Mae cysylltiad cynhenid rhwng iechyd anifeiliaid, iechyd dynol ac iechyd yr amgylchedd ​​a gall mynd i’r afael ag un agwedd ar hyn effeithio ar y lleill. Mae gwaith yr Athro Holt ar kombucha ac iechyd y perfedd a sut mae’r ‘ymyrraeth’ gorfforol yma’n cwmpasu newid ymddygiad a sylw at seicoleg yn agwedd ar y gwaith hwn.

A head and shoulders photo of Richard Wyn Huws

Richard Wyn Huws

Richard Wyn Huws ynghyd â’i wraig Iola yw perchennog Gwinllan a Pherllan Pant Du ger Penygroes yng Ngwynedd. Fe brynon nhw’r ffarm yn 2003 pan oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio da byw. Eu breuddwyd nhw oedd cynhyrchu gwin. Plannwyd gwinllan a pherllan yn 2007 a thair blynedd yn ddiweddarach, cynhyrchwyd y botel gyntaf o win Pant Du. Mae’r busnes hefyd yn cynhyrchu seidr, sudd afal a dŵr ffynnon. Mae Richard yn gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd i gynhyrchu finegr seidr afal wedi eplesu ag iddo fuddion iechyd.
Profile picture of Yr Athro | Professor Huw D Jones

Yr Athro Huw D Jones

Mae Huw D Jones yn Athro Genomeg Drosiadol ar gyfer Bridio Planhigion yn Adran y Gwyddorau Bywyd ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn cymhwyso dulliau biotechnoleg i astudio genomeg swyddogaethol mewn planhigion gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar olygu genynnau. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn meithriniad meinwe planhigion, trawsnewid cloroplastau, RNAi a dilysu hyrwyddwyr ar gyfer targedu meinweoedd a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Yn ogystal â’i ddiddordebau ymchwil ac addysgu mae ganddo arbenigedd mewn datblygu polisi ac mewn asesu risg amgylcheddol a diogelwch bwyd ar gyfer rheoleiddio biotechnoleg. Mae’n aelod presennol o ‘Bwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd’ Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) y DU a ‘Phwyllgor Cynghori ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd’, Defra; bu’n aleod hefyd o banel GMO Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) rhwng 2009-2018, gan wasanaethu fel is-gadeirydd ar gyfer y ddwy flynedd. Mae wedi cyhoeddi dros 110 o bapurau ymchwil, llyfrau ac erthyglau eraill mewn geneteg foleciwlaidd planhigion a biotechnoleg. Ac mae wedi cyd-ysgrifennu 160 o farnau asesu risg gwyddonol a dogfennau canllaw pellach ar gyfer EFSA neu’r ASB.

Jamila La-Malfa Donaldson holding a small container of hemp seeds

Jamila La-Malfa Donaldson

Jamila La Malfa-Donaldson yw sylfaenydd PROHEMPOTIC, busnes technoleg bwyd-amaeth sy’n canolbwyntio ar ganfod potensial hadau cywarch. Mae gan Jamila brofiad unigryw mewn profi, tyfu a phrosesu cywarch diwydiannol o’i hymchwil PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyn dechrau astudio ar gyfer ei doethuriaeth, enillodd radd Meistr mewn Peirianneg Gemegol gyda Busnes o Brifysgol Birmingham. Ar ôl graddio, bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd fel Cyfathrebwr Gwyddoniaeth, gan gyflwyno gweithdai STEM ymarferol i ysbrydoli myfyrwyr ledled y DU a thramor. Lansiodd La Malfa-Donaldson ei busnes yn 2022 ar ôl ennill cystadleuaeth InvEnterPrize y Brifysgol. Tra’n rhedeg ei busnes, mae Jamila hefyd yn cwblhau ei PhD ac yn darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol fel Cydymaith Rheoli Cynnyrch Planhigion gyda Chanolfan Amaeth-Dechnoleg newydd y DU. Mae gan La Malfa-Donaldson ddiddordeb mewn moderneiddio technegau hynafol, megis eplesu, i greu bwyd a diodydd maethlon a blasus o gynhyrchion amaethyddol a ffrydiau gwastraff. Mae hi hefyd yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ym maes arloesedd ac mae wedi derbyn Gwobr Arloeswyr Ifanc a Gwobr Datgloi Potensial Innovate UK.

Dr Amanda J Lloyd

Mae Dr Amanda Lloyd yn Uwch Ymchwilydd gyda’r Grŵp Ymchwil Bwyd, Diet ac Iechyd yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, sy’n astudio effaith diet a gweithgaredd corfforol ar iechyd a chlefydau. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau bwyd a diod ledled Cymru i ymchwilio i’r genhedlaeth nesaf o fwydydd a diodydd wedi’u heplesu ac sy’n ymarferol. Ar hyn o bryd mae Dr Lloyd yn gweithio ar 4 prosiect ymchwil Innovate UK sy’n edrych ar greu bwydydd ‘Gwell’, ochr yn ochr â chwech prosiect arloesi bwyd yr OIRC. Dr Lloyd sy’n arwain arloesi ar gyfer ei grŵp ymchwil mewn cydweithrediad â thimau academaidd o fri yn y DU, Sbaen, Ffrainc, Portiwgal a Chanada. Hi hefyd yw Rheolwr Rhaglen y prosiect MRC 5 mlynedd sy’n edrych ar dechnolegau sy’n dod i’r amlwg er mwyn creu  Offeryn Asesu Mewnlif Dietegol Safonol ac Amcanol (SODIAT).
A profile picture of Dr Lindsey Male from Aber Instruments

Dr Lindsey Male

Rheolwr Cynnyrch yn Aber Instruments yw Dr Lindsey Male, yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth cynnyrch bragu’r cwmni. Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu i fragdai a distyllfeydd ledled y byd fonitro eu burum, gan sicrhau ansawdd a chysondeb ym mhob eplesiad. Yn 2019, cwblhaodd PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i reolaeth burum a’r gallu i ragfynegi perfformiad eplesu gan ddefnyddio dysgu peirianyddol. Sefydlwyd Aber Instruments ym mis Ionawr 1988 fel un o’r cwmnïau cyntaf i ddeillio o’r Brifysgol ac mae’n cyflenwi systemau monitro eplesu ledled y byd ar gyfer mesur crynodiad biomas yn gyflym ac yn gywir, gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd o ymchwil y Brifysgol.

Yr Athro / Professor Darren Oatley-Radcliffe

Yr Athro Darren Oatley-Radcliffe

Mae’r Athro Darren Oatley-Radcliffe yn Beiriannydd Prosesau Cemegol a Biolegol ac yn Gymrawd yr IChemE a’r Academi Addysg Uwch. Treuliodd ddegawd yn gweithio yn y diwydiannau fferyllol lle mae ei brofiad yn cwmpasu swp cGMP a chynhyrchu fferyllol parhaus, dylunio a datblygu endidau cemegol newydd, ac asesu diogelwch/risg. Yn ystod ei yrfa ddiwydiannol cafodd statws peiriannydd arweiniol ar ddatblygiad nifer o nwyddau fferyllol (e.e. GW685698X – Veramyst, rhinitis alergaidd a GW856553 – Losmapimod, clefyd cardiofasgwlaidd a COPD) ac roedd yn ffigwr allweddol yn natblygiad canolfan cynhyrchu cynradd parhaus newydd. Ar ôl cwblhau prosiectau agoriadol yn llwyddiannus yn y ganolfan nodedig hon, dyfarnwyd y teitl ‘Vanguard’ iddo yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Prif Weithredwr GSK 2009. Yng ngwanwyn 2010, derbyniodd Darren swydd academaidd a symudodd i Brifysgol Abertawe lle mae’n gweithio ar hyn o bryd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys technolegau’r economi gylchol a lliniaru hinsawdd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg algâu a gwahanu pilenni. Mae hyn yn cynnwys dylunio a datblygu prosesau pilenni a philenni newydd, cynhyrchu algâu a phrosesu gwaered afon, a thechnolegau dŵr ar gyfer glanhau gwastraff, ailgylchu a chynhyrchu dŵr yfed. Ers ymuno â’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe mae wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys dylunio, adeiladu a chomisiynu adweithydd ffoto-fio peilot newydd ac mae hefyd yn arwain ymdrechion i brosesu microalgâu ac ymchwil pilen i lawr yr afon. Mae ganddo sawl patent, mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a phenodau, ac mae wedi cyhoeddi tua 50+ o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid. Ar hyn o bryd mae’n Arholwr Allanol Peirianneg Gemegol yng Ngholeg Imperial Llundain, mae ganddo fynegai h o 24, ac mae wedi’i ddyfynnu dros 4000 o weithiau. Yn 2012 fe ddeilliodd gwmni Membranology Limited o’r Brifysgol ac yn 2019 fe sefydlodd APEX Water Solutions. Ar hyn o bryd mae’n datblygu cynhyrchion a thechnolegau mewn partneriaeth ag Algae Products International.

Mark Pavey of Conwy Kombucha Ltd standing at a stall displaying bottles of Blighty Booch kombucha drink.

Mark Pavey

Mae Mark Pavey yn Gyfarwyddwr Conwy Kombucha, a sefydlwyd yn 2018 i gynhyrchu kombucha Blighty Booch – te pefriog naturiol wedi’i eplesu sy’n cael ei fragu’n draddodiadol mewn sypiau bach gan ddefnyddio te ystâd sengl o Tseina. Mark sy’n gyfrifol am oruchwylio cynhyrchu, dosbarthu a hyrwyddo cynnyrch y cwmni, yn ogystal â datblygu blasau, partneriaethau a chyfleoedd newydd. Ef hefyd yw’r prif bartner masnachol ar brosiect ymchwil a ariennir gan Innovate UK ym Mhrifysgol Aberystwyth i archwilio a phrofi buddion kombucha o ran iechyd a lles.
A head and shoulders photo of Natalie Rouse from BIC Innovation

Natalie Rouse

Mae Natalie Rouse yn Faethegydd Cyswllt Cofrestredig gyda dros ddeunaw mlynedd o brofiad o weithio ym maes maeth dynol, ymchwil maeth, ymgynghoriaeth, maeth clinigol, ac ymyrraeth iechyd a hynny mewn sefydliadau academaidd, lluoedd arbennig y DU, ac ymgynghoriaeth maeth masnachol (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), ar draws yr holl sectorau bwyd, diod, ychwanegion a chynhwysion newydd. Ymunodd â BIC Innovation yn 2019 fel Maethegydd, Gwyddonydd Ymchwil Maeth, Sganiwr y Gorwel, ac Ymchwilydd Marchnadoedd a Thechnolegau gan gefnogi prosiect Bwydydd y Dyfodol, ochr yn ochr â phrosiectau eraill megis Mentrau Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, NutriWales, ValuSect ac AHFES, gan gynnig arbenigedd yn ogystal â threfnu cyflwyniadau / gweminarau sy’n cyfuno academia a datblygiad masnachol.

A head and shoulders photo of Dr Alexander Taylor

Dr Alexander Taylor

Mae Dr Alexander Taylor yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Seicoleg o Brifysgol Reading, gradd MSc anrhydedd mewn Niwrowyddoniaeth o Brifysgol Manceinion, ac anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gradd BSc Bioleg Ddynol a Seicoleg o Brifysgol Swydd

Stafford. Mae ganddo brofiad ac arbenigedd ymchwil, ynghyd â phrofiad clinigol a phrofiad dysgu, yn y meysydd canlynol: niwrowyddoniaeth affeithiol, gwybyddiaeth, heneiddio, clefyd Alzheimer, iechyd meddwl, niwroddelweddu, niwroseicoleg a dulliau ymchwil. Mae prif themâu ei waith ymchwil yn ymnweud ag iechyd emosiynol a chorfforol oedolion hŷn yng nghyd-destun rhyngweithiadau emosiynol a gwybyddol mewn perthynas â modelau a damcaniaethau seicolegol a niwral.