Rhaglen

Dydd Iau 18 Ebrill

 

17-00 – 18:00

Derbyniad Croeso a Chofrestru Cynnar

Sinema Canolfan Celfyddydau Aberystwyth

18:00 – 19:30

Dangosiad o’r ffilm ddogfen ‘Fermented’ (2017) yn dilyn y cogydd a’r awdur Edward Lee wrth iddo egluro’r broses hynafol eplesu a sut mae’n cael ei ddefnyddio heddiw. Cyfarwyddwr: Jonathan Cianfrani. Hyd: 1 awr 8 munud.

Sinema

Dydd Gwener 19 Ebrill

 

09:30 – 10:00  

Coffi a chofrestru. 

Sinema Canolfan Celfyddydau Aberystwyth 

10:00 – 10:45 

Kombucha: Superfood for the mind and body? 

Trafodaeth banel ar brosiect ymchwil a ariennir gan Innovate UK ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar effaith Kombucha ar lefelau straen a rheolaeth emosiynol mewn unigolion iach. Y siaradwyr fydd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth; Dr Amanda Lloyd, ymchwilydd Bwyd, Deiet ac Iechyd yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol; Mark Pavey, Cyfarwyddwr Conwy Kombucha, a Dr Alexander Taylor, Seicolegydd Siartredig a Darlithydd yn yr Adran Seicoleg.

 

Sinema

10:45 – 11:30 

Toriad am luniaeth a chyfle i rwydweithio wrth ymweld ag ystod o stondinau’n arddangos prosiectau ymchwil gwahanol; mudiadau sy’n cynnig gwasanaeth cefnogi i’r diwydiant bwyd a diod, a chynnyrch gan gwmnïau bwyd a diod wedi eplesu o Gymru. Bydd arddangosfa hefyd o bosteri ymchwil academaidd.

Bar y Theatr

11:30 – 12:00 

Fermenting: Yeast & the Perfect Pint 

Wyddech chi y gallai’r broses eplesu fod wedi ei defnyddio o ddeutu 13,000 o flynyddoedd yn ôl i fragu cwrw? Yr Athro Hazel Davey o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth sy’n mynd â ni ar daith yn ôl i wreiddiau cynnar bragu ac ymlaen at heddiw i sôn am sut mae ymchwil cyfoes yn helpu i sicrhau cysondeb a safon pob peint. Yn gwmni iddi fydd Dr Lindsey Male, cyn fyfyrwraig PhD yn Aberystwyth, sydd bellach yn gweithio yn Aber Instruments. Cafodd y cwmni ei sefydlu dros 35 mlynedd yn ôl ar sail ymchwil arloesol yn deillio o’r Brifysgol a arweiniodd at ddatblygu offer i fesur a rheoli’n gywir y lefelau burum yn y broses eplesu cwrw. 

Sinema

12:00 – 12:45 

Creu Cynnyrch sy’n Hyrwyddo Iechyd, sy’n Newydd ac yn Gynaliadwy 

Dywedir yn anecdotaidd fod finegr wedi eplesu yn fuddiol i’n hiechyd mewn sawl ffordd. Ond beth yw’r dystioliaeth wyddonol a sut gall ymchwilwyr ddatblygu bwydydd newydd wedi eplesu sy’n llesol i ni? Mae Dr Amanda Lloyd o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, a’r maethegydd ac ymchwilydd technolegau Natalie Rouse o BIC Innovation yn gweithio gyda sylfaenydd Gwinllan a Pherllan Pant Du, Richard Wyn Huws, i archwilio priodweddau finegr seidr afal wedi eplesu a bwydydd eraill. Sesiwn ddwyeithiog. Darperir offer cyfieithu ar y pryd.

Sinema

13:00 – 13:45 

Cinio a Rhwydweithio

Ymunwch â ni am ginio ysgafn ym mar y theatr, fydd yn cynnwys ychydig o fwydydd wedi eplesu. Bydd cyfle hefyd i grwydro stondinau cynhyrchwyr, mudiadau busnes, prosiectau ymchwil a phosteri academaidd.

Bar y Theatr

13:45 – 14:30 

Dangosiad Gwneud Kefir Dŵr a Sauerkraut

Cyflwyniad ymarferol i’r grefft o wneud kefir dŵr a sauerkraut yng nghwmni Laure Boutrais, natur-iachäwr a sylfaenydd Absorb Health – cwmni a sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 2017 i gynhyrchu bwyd a diod wedi eplesu. Bydd Laure yn rhoi trosolwg hefyd o nodweddion gwahanol fwydydd a diodydd wedi eplesu, ac yn rhannu samplau blasu gyda’r gynulleidfa.

Y Stiwdio Gron

14:30 – 15:30 

Future Trends in Fermentation 

Trafodaeth banel yng nghwmni academyddion sy’n gweithio ar ystod o brosiectau ymchwil yn ymwneud ag eplesu – o gynnyrch gwymon i greu bwydydd microbaidd cynaliadwy drwy brosesau eplesu burum a ffyngau. Ymhlith y siaradwr fydd Dr David Bryant o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS); Dr Rhian Hayward o Arloesi Aber; yr Athro Huw D Jones (IBERS); Jamila La Malfa-Donaldson, Prohempotic; yr Athro Darren Oatley-Radcliffe o Brifysgol Abertawe.

Sinema

15:30

Diwedd y Digwyddiad