Siaradwyr (A-Y)
Laure Boutrais
Dr David Bryant
Mae Dr David Bryant yn uwch gymrawd ymchwil yn y Grŵp Buro Biomas a Biodrosi yn IBERS PA. Gydag arbenigedd mewn biotechnoleg diwydiannol planhigion a microbaidd, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar eplesu manwl gywir, cynyddu ac i lawr yr afon. Mae wedi goruchwylio a chyd-oruchwylio 8 myfyriwr PhD ac wedi arwain consortia ymchwil rhyngwladol â ffocws diwydiannol yn Ewrop (Climate-KIC BIOSUCCONNOVATE) ac India (BBSRC BIOREVIEW). Mae allbwn y prosiectau hyn wedi arwain at fasnacheiddio ei ymchwil ar weithgynhyrchu eplesu xylitol a ffurfio cwmni deillio ARCITEK-Bio Ltd, lle mae’n gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol. Mae’n arwain prosiect FoodBioSystems y BBSRC sy’n defnyddio eplesu cyflwr solet “Bioburo Protein o Laswelltiroedd y DU – A Allwn ni Gyfuno Protein Newydd â Chrystiau Bara Dros Ben i Fwydo Bwyd Iachach yn Gynaliadwy i Fwy o Bobl?” mewn cydweithrediad â Samworth Brothers Ltd. Yn fwy diweddar, mae ei ddiddordebau ymchwil wedi canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrwng yn seiliedig ar blanhigion ar gyfer y diwydiant cig wedi’i feithrin, ac mae’n Gyd-Ymchwilydd ar brosiect BioFoodSystems y BBSRC, “Ail-feddwl Cyfrwng Tyfu Cig wedi’i Feithrin: A all Atodiadau sy’n Deillio o Blanhigion Glaswellt Gefnogi Cynhyrchu CM yn Gynaliadwy?”, ar y cyd â Cellular Agriculture Ltd. Ar ben hynny, ef yw arweinydd IBERS yng nghanolfan BBSRC Engineering Biology Microbial Foods a arweinir gan Imperial College London, gan ddarparu arbenigedd mewn cynyddu graddfa eplesu bwydydd a hefyd yn cyd-arwain prosiect BEACON Canolbarth Cymru UKSPF gan weithio gyda chwmnïau o Bowys sy’n weithgar yn y bioeconomi gylchol.
Yr Athro Hazel Davey
Dr Rhian Hayward
Yr Athro Nigel Holt
Mae Nigel Holt yn Athro Seicoleg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo ddiddordeb mewn nifer o feysydd ond o ran eplesu deillia ei ddiddordeb o’i waith ‘Un Iechyd’ – agwedd at iechyd sydd wedi dod yn ganolbwynt i ystod o waith yn fyd-eang. Mae cysylltiad cynhenid rhwng iechyd anifeiliaid, iechyd dynol ac iechyd yr amgylchedd a gall mynd i’r afael ag un agwedd ar hyn effeithio ar y lleill. Mae gwaith yr Athro Holt ar kombucha ac iechyd y perfedd a sut mae’r ‘ymyrraeth’ gorfforol yma’n cwmpasu newid ymddygiad a sylw at seicoleg yn agwedd ar y gwaith hwn.
Richard Wyn Huws
Yr Athro Huw D Jones
Mae Huw D Jones yn Athro Genomeg Drosiadol ar gyfer Bridio Planhigion yn Adran y Gwyddorau Bywyd ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn cymhwyso dulliau biotechnoleg i astudio genomeg swyddogaethol mewn planhigion gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar olygu genynnau. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn meithriniad meinwe planhigion, trawsnewid cloroplastau, RNAi a dilysu hyrwyddwyr ar gyfer targedu meinweoedd a ddiffiniwyd ymlaen llaw. Yn ogystal â’i ddiddordebau ymchwil ac addysgu mae ganddo arbenigedd mewn datblygu polisi ac mewn asesu risg amgylcheddol a diogelwch bwyd ar gyfer rheoleiddio biotechnoleg. Mae’n aelod presennol o ‘Bwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd’ Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) y DU a ‘Phwyllgor Cynghori ar Ollyngiadau i’r Amgylchedd’, Defra; bu’n aleod hefyd o banel GMO Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) rhwng 2009-2018, gan wasanaethu fel is-gadeirydd ar gyfer y ddwy flynedd. Mae wedi cyhoeddi dros 110 o bapurau ymchwil, llyfrau ac erthyglau eraill mewn geneteg foleciwlaidd planhigion a biotechnoleg. Ac mae wedi cyd-ysgrifennu 160 o farnau asesu risg gwyddonol a dogfennau canllaw pellach ar gyfer EFSA neu’r ASB.
Jamila La-Malfa Donaldson
Jamila La Malfa-Donaldson yw sylfaenydd PROHEMPOTIC, busnes technoleg bwyd-amaeth sy’n canolbwyntio ar ganfod potensial hadau cywarch. Mae gan Jamila brofiad unigryw mewn profi, tyfu a phrosesu cywarch diwydiannol o’i hymchwil PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyn dechrau astudio ar gyfer ei doethuriaeth, enillodd radd Meistr mewn Peirianneg Gemegol gyda Busnes o Brifysgol Birmingham. Ar ôl graddio, bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd fel Cyfathrebwr Gwyddoniaeth, gan gyflwyno gweithdai STEM ymarferol i ysbrydoli myfyrwyr ledled y DU a thramor. Lansiodd La Malfa-Donaldson ei busnes yn 2022 ar ôl ennill cystadleuaeth InvEnterPrize y Brifysgol. Tra’n rhedeg ei busnes, mae Jamila hefyd yn cwblhau ei PhD ac yn darparu cymorth technegol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol fel Cydymaith Rheoli Cynnyrch Planhigion gyda Chanolfan Amaeth-Dechnoleg newydd y DU. Mae gan La Malfa-Donaldson ddiddordeb mewn moderneiddio technegau hynafol, megis eplesu, i greu bwyd a diodydd maethlon a blasus o gynhyrchion amaethyddol a ffrydiau gwastraff. Mae hi hefyd yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ym maes arloesedd ac mae wedi derbyn Gwobr Arloeswyr Ifanc a Gwobr Datgloi Potensial Innovate UK.
Dr Amanda J Lloyd
Dr Lindsey Male
Rheolwr Cynnyrch yn Aber Instruments yw Dr Lindsey Male, yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth cynnyrch bragu’r cwmni. Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu i fragdai a distyllfeydd ledled y byd fonitro eu burum, gan sicrhau ansawdd a chysondeb ym mhob eplesiad. Yn 2019, cwblhaodd PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan ymchwilio i reolaeth burum a’r gallu i ragfynegi perfformiad eplesu gan ddefnyddio dysgu peirianyddol. Sefydlwyd Aber Instruments ym mis Ionawr 1988 fel un o’r cwmnïau cyntaf i ddeillio o’r Brifysgol ac mae’n cyflenwi systemau monitro eplesu ledled y byd ar gyfer mesur crynodiad biomas yn gyflym ac yn gywir, gan ddefnyddio technoleg a ddatblygwyd o ymchwil y Brifysgol.
Yr Athro Darren Oatley-Radcliffe
Mae’r Athro Darren Oatley-Radcliffe yn Beiriannydd Prosesau Cemegol a Biolegol ac yn Gymrawd yr IChemE a’r Academi Addysg Uwch. Treuliodd ddegawd yn gweithio yn y diwydiannau fferyllol lle mae ei brofiad yn cwmpasu swp cGMP a chynhyrchu fferyllol parhaus, dylunio a datblygu endidau cemegol newydd, ac asesu diogelwch/risg. Yn ystod ei yrfa ddiwydiannol cafodd statws peiriannydd arweiniol ar ddatblygiad nifer o nwyddau fferyllol (e.e. GW685698X – Veramyst, rhinitis alergaidd a GW856553 – Losmapimod, clefyd cardiofasgwlaidd a COPD) ac roedd yn ffigwr allweddol yn natblygiad canolfan cynhyrchu cynradd parhaus newydd. Ar ôl cwblhau prosiectau agoriadol yn llwyddiannus yn y ganolfan nodedig hon, dyfarnwyd y teitl ‘Vanguard’ iddo yng Ngwobrau Cynaliadwyedd Prif Weithredwr GSK 2009. Yng ngwanwyn 2010, derbyniodd Darren swydd academaidd a symudodd i Brifysgol Abertawe lle mae’n gweithio ar hyn o bryd. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys technolegau’r economi gylchol a lliniaru hinsawdd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg algâu a gwahanu pilenni. Mae hyn yn cynnwys dylunio a datblygu prosesau pilenni a philenni newydd, cynhyrchu algâu a phrosesu gwaered afon, a thechnolegau dŵr ar gyfer glanhau gwastraff, ailgylchu a chynhyrchu dŵr yfed. Ers ymuno â’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe mae wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys dylunio, adeiladu a chomisiynu adweithydd ffoto-fio peilot newydd ac mae hefyd yn arwain ymdrechion i brosesu microalgâu ac ymchwil pilen i lawr yr afon. Mae ganddo sawl patent, mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a phenodau, ac mae wedi cyhoeddi tua 50+ o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid. Ar hyn o bryd mae’n Arholwr Allanol Peirianneg Gemegol yng Ngholeg Imperial Llundain, mae ganddo fynegai h o 24, ac mae wedi’i ddyfynnu dros 4000 o weithiau. Yn 2012 fe ddeilliodd gwmni Membranology Limited o’r Brifysgol ac yn 2019 fe sefydlodd APEX Water Solutions. Ar hyn o bryd mae’n datblygu cynhyrchion a thechnolegau mewn partneriaeth ag Algae Products International.
Mark Pavey
Natalie Rouse
Mae Natalie Rouse yn Faethegydd Cyswllt Cofrestredig gyda dros ddeunaw mlynedd o brofiad o weithio ym maes maeth dynol, ymchwil maeth, ymgynghoriaeth, maeth clinigol, ac ymyrraeth iechyd a hynny mewn sefydliadau academaidd, lluoedd arbennig y DU, ac ymgynghoriaeth maeth masnachol (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), ar draws yr holl sectorau bwyd, diod, ychwanegion a chynhwysion newydd. Ymunodd â BIC Innovation yn 2019 fel Maethegydd, Gwyddonydd Ymchwil Maeth, Sganiwr y Gorwel, ac Ymchwilydd Marchnadoedd a Thechnolegau gan gefnogi prosiect Bwydydd y Dyfodol, ochr yn ochr â phrosiectau eraill megis Mentrau Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru, NutriWales, ValuSect ac AHFES, gan gynnig arbenigedd yn ogystal â threfnu cyflwyniadau / gweminarau sy’n cyfuno academia a datblygiad masnachol.
Dr Alexander Taylor
Mae Dr Alexander Taylor yn Seicolegydd Siartredig gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Seicoleg o Brifysgol Reading, gradd MSc anrhydedd mewn Niwrowyddoniaeth o Brifysgol Manceinion, ac anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gradd BSc Bioleg Ddynol a Seicoleg o Brifysgol Swydd